Croeso
Mae’r wefan hon yn cael ei datblygu gan Gyngor Llyfrau Cymru fel ffynhonnell wybodaeth gynhwysfawr am y diwydiant cyhoeddi. Bwriedir ychwanegu tudalennau yn gyson, yn ogystal â helaethu a diweddaru’r wybodaeth sydd yma’n barod. Os hoffech awgrymu testunau newydd i’w hystyried, neu os dymunwch gynnwys manylion am eich busnes eich hun, cysylltwch â ni.
Ar wefan gorfforaethol Cyngor Llyfrau Cymru, sef www.llyfrau.cymru fe welir manylion ein holl wasanaethau a'r ymgyrchoedd hyrwyddo diweddaraf. Mae gwefan www.gwales.com yn cynnwys gwybodaeth am lyfrau o Gymru a'r gallu i archebu'n ddiogel os y dymunwch.