Y 100 Lle i'w Gweld Cyn Marw

Welsh Books Council

Y 100 Lle i'w Gweld Cyn Marw - 25 Tachwedd 2009

Bach ond bendigedig - efallai bod Cymru yn wlad fach, ond dyw hynny ddim ond yn un rheswm arall i ddod i’w hadnabod a’i charu yn well. Gyda phob cornel o’r wlad yn hawdd i’w cyrraedd, mae Cymru’n fan ysbrydoledig, hudolus sy’n barod i lenwi trysorfa o atgofion amhrisiadwy. Os nad yw hynny'n ddigon i’ch denu i ddarganfod mwy, yna beth am ddilyn un o haneswyr fwyaf adnabyddus Cymru, John Davies, wrth iddo ein harwain drwy ei restr o 100 lle fwyaf cofiadwy a hanesyddol yng Nghymru yn ei lyfr newydd,  Cymru: Y 100 lle i’w gweld cyn marw.

Yn adnabyddus am ei allu i ddod â hanes yn fyw, o adrodd straeon a chwedlau, hen a newydd, yn y gyfrol hon mae John Davies yn cyd-weithio â’r ffotograffydd amlwg, Marian Delyth gan gofnodi Cymru drwy lun a gair. Gadewch i’ch synhwyrau eich arwain i bob cwr o’r wlad, gan ddechrau ym Mynydd Parys, Ynys Môn, cyn ymlwybro draw i Bennant Melangell a Phontcysyllte, lawr i Ystrad-fflur a Hendy-gwyn, heibio Aberdâr a’r Fenni cyn gorffen y daith ger yr ail groesfan ar draws aber Afon Hafren.

Mae’r rhestr yn cynnwys rhai o’r ffefrynnau amlwg fel Harlech, Biwmares, Portmeirion, Conwy, Y Mwmbwls a Dinbych-y-pysgod. Ond mae’r gyfrol hefyd yn rhoi sylw teilwng i dreftadaeth ddiwydiannol Cymru ac yn teithio drwy Flaenau Ffestiniog, Dowlais, Castell Nedd, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Blaenafon, Brynmawr a Thredegar. Mae hefyd yn cynnwys mannau anghysbell fel Hen Bewpyr ger y Bontfaen, Llanddewi Nant Hodni yng Ngwent a Barclodiad y Gawres a Bryn Celli Ddu ym Môn. Ond mae ambell beth sy’n peri syndod am y gyfrol hon hefyd, ni cheir taith mewn cwch i ynys hudolus Enlli, na thaith glan môr i Ynys Llanddwyn a dim ond sylw sydyn wrth wibio heibio y cawn ni am yr Wyddfa.

Eglura John Davies, "Mae’r mannau o dan sylw i gyd yn gynnyrch llafur dynolryw. Dichon y gellid cynnwys mannau fel Llanddwyn ac Enlli mewn cyfrol yn ymwneud â’r can lle yng Nghymru sy’n enwog am eu harddwch naturiol; yn wir, byddai cyfrol o’r fath yn gymar addas i’r gyfrol hon."

Mae ymweld â’r can lleoliad hyn yn daith i’w mwynhau dros oes gan ddarganfod mwy a chael blas ar naws pob llecyn, ond, i Marian Delyth roedd hon yn daith enfawr. Ei gwaith hi, ynghyd â’i chamera, oedd cyfleu pob lleoliad o ddewis John Davies mewn llun. Bu’n gweithio’n gyson am fisoedd i gwblhau’r dasg gan greu casgliad amhrisiadwy o luniau. Mae ei lluniau lliw yn cyfleu ysbryd Cymru’n llawn - y golau yn y bore bach yn Nyffryn Tanat ac yna’r machlud ger y lli yn Aberystwyth; eira ar lethrau’r Eifl ym mis Mawrth a’r grug ar Foel Drygarn ym mis Medi.

Meddai Marian Delyth, "Tipyn o marathon o daith oedd y comisiwn hwn. Mae tynnu lluniau cant o lefydd yn gofyn am dipyn o ymroddiad, amynedd a dyfalbarhad. Erbyn cyrraedd diwedd y daith serch hynny – mae’r diolch yn drech na’r dannod – am i John Davies yn ei ddull dihafal ei hun fy arwain i ambell berl o lecyn ac ardaloedd na wyddwn i fawr ddim amdanynt. Llefydd y byddaf yn siwr o ddychwelyd iddynt eto gan na fedrwn oedi’n hir iawn y tro hwn. Fe ddysgais lawer ar y daith hefyd yn arbennig am ein hardaloedd ôl-ddiwydiannol lle’r oedd yn rhaid i mi weithiau chwilio yn ddyfal i ganfod y llun gwreiddiol gorau i gofnodi olion ein hetifeddiaeth."

Meddai Lefi Gruffudd, rheolwr cyffredinol Y Lolfa,  "Mae Cymru: Y 100 Lle i’w Gweld cyn Marw,  yn llyfr perffaith ar gyfer hosan Nadolig ac yn gyfrol ddelfrydol i unrhyw un sy’n hoff o Gymru ac o ddarganfod llefydd newydd. Mae cyfrol clawr caled wedi ei lofnodi yn anrheg well fyth. Felly, pam na wnewch chi geisio ateb her John Davies gan ymweld â 100 lle Cymru yn ystod eich bywyd chi!"

Nol i'r Rhestr Newyddion