Cafodd dros fil o blant y cyfle i gyfarfod â'r awdur poblogaidd Jacqueline Wilson pan ddaeth ar ymweliad â Cheredigion ar achlysur rownd derfynol y Gystadleuaeth Lyfrau a drefnwyd gan y Cyngor Llyfrau.
Bu cystadlu brwd rhwng 15 o ysgolion o bob cwr o Gymru gydag Ysgol Treganna, Caerdydd yn fuddugol ar y cyflwyniad ac Ysgol y Borth, Porthaethwy yn derbyn y brif wobr.
Yn y prynhawn, diddanodd Jacqueline Wilson y plant gyda straeon am ei llyfrau a'i chymeriadau cyn ateb cwestiynau gan y disgyblion.
Nol i'r Rhestr Newyddion